Gwirydd Sillafu Cymraeg Wordpress Plugin - Rating, Reviews, Demo & Download
Plugin Description
Dangoswch awgrymiadau sillafu a gramadeg wrth gyhoeddi yn y Gymraeg gyda WordPress.
Datblygwyd yr ategyn hwn ar gyfer gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360 a chynllun cyhoeddi cymunedol Bro360 gan Iwan Standley ar ran Golwg.
Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Bangor, er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau wrth i chi ysgrifennu cofnodion o fewn golygydd WordPress. Bydd angen i chi gofrestru i greu cyfrif am ddim er mwyn defnyddio’r gwasanaeth (mae rhagor o fanylion yn yr ategyn).
Mae hefyd yn cynnig ffordd hawdd o osod toeon bach ac acenion eraill yn eich cofnod.
Mae Golwg yn falch o rannu’r adnodd hwn gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg. Mae croeso i chi gynnig gwelliannau ac ailddefnyddio’r cod.
This Welsh-language spelling and grammar checker is provided by Golwg using Bangor University’s Cysill API.
Screenshots
-
Mae’r ategyn yn ychwanegu dau fotwm i’r golygydd cofnodion.
-
Defnyddiwch y botwm gwirydd i ddangos awgrymiadau sillafu a gramadeg.
-
Mae hefyd yn cynnig ffordd syml o osod llythrennau gyda thoeon bach ac acenion eraill.
-
Gallwch ddefnyddio’r gwirydd o fewn y bloc clasurol yn y golygydd blociau newydd.